Mae gwybodaeth yn adnodd hanfodol i bob busnes heddiw ac yn allweddol i dyfiant a llwyddiant. Felly, mae'n hollbwysig i sicrhau fod yr wybodaeth sydd ar eich systemau TG yn ddiogel.
Diddymir larymau, gwarchodwyr a chamerau Cylch Cyfyng os yw'ch diogelwch TG yn annigonol. Mae un camgymeriad bach yn ddigon i greu problem fawr.
Erbyn hyn mae gan y mwyafrif o swyddfeydd fynediad i'r rhyngrwyd sy'n golygu y gall pob bwrdd gwaith fod yn fynediad posib i firwsau neu drojans, ac mae'r bygythiadau hyn yn lluosogi gydag ymlediad bandeang, gliniaduron a chyfiriaduron llaw sydd ymlaen drwy'r amser. Gall defnydd esgeulus o ebost, y rhyngrwyd neu gysylltiadau di-wifr heb eu diogelu'n ddigonol achosi problemau. Mae Telemat yn darparu cyngor a chefnogaeth i ddiogelu'ch systemau yn yr hinsawdd cynyddol-gymleth hwn.
©Cefnogaeth TG Telemat 2011 | Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd
Cefnogaeth TG Telemat yn gweithio dros Gymru